Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi awgrymu y gallai’r haciwr cyfrifiaduron Gary McKinnon dreulio rhywfaint o’i ddedfryd mewn carchar ym Mhrydain.

Dywedodd David Cameron ei fod wedi codi’r pwnc mewn trafodaethau gyda’r Arlywydd Barack Obama yn y Tŷ Gwyn.

Mae Gary McKinnon, 43, yn wynebu hyd at 60 mlynedd yn y carchar am dorri i mewn i rwydwaith cyfrifiadurol lluoedd arfog yr Unol Daleithiau.

Mae’r dyn o Wood Green, yng ngogledd Llundain, yn dioddef o gyflwr Asperger’s ac mae wedi dweud mai chwilio am dystiolaeth ynglŷn ag UFOs yr oedd pan haciodd i mewn i’r rhwydwaith.

Cydweithio

Datgelodd y Prif Weinidog wrth Radio 5 Live bod Llywodraeth San Steffan wedi bod yn cydweithio gyda’r Unol Daleithiau fel bod “rhywfaint o’r ddedfryd – os oes dedfryd o garchar – yn cael ei threulio mewn carchar ym Mhrydain”.

“Ond dydw i ddim eisiau rhagfynegi dim. Mae yna faterion anodd sydd angen gweithio arnyn nhw.”

Yn y gorffennol, mae David Cameron a’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi beirniadu’n cynlluniau i yrru Gary McKinnon i’r Unol Daleithiau i wynebu carchar.

Y llynedd dywedodd David Cameron y dylai Gary McKinnon “wynebu llys ym Mhrydain”.

Diogelwch ar y we

Fe gadarnhaodd yr Arlywydd Obama ei fod wedi siarad gyda David Cameron ynglŷn â “her gynyddol” diogelwch ar y We a sut y gallai’r ddwy wlad gydweithio ar y mater.

“Un traddodiad sydd gennym ni ydi nad yw’r arlywydd yn ymyrryd mewn materion fel erlyn ac estraddodi,” meddai.

“Rydw i’n gobeithio y bydd hyn yn cael ei ddatrys mewn modd sy’n tanlinellu difrifoldeb beth ddigwyddodd, ond hefyd yn dangos ein bod ni’n gallu gweithio gyda’n gilydd.”

Dywedodd mam Gary McKinnon, Janis Sharp, ei bod hi wrth ei bodd bod achos ei mab wedi ei grybwyll gan y Prif Weinidog.