Mae’r argyfwng ariannol yn effeithio ar gystadleuaeth y Cwpan Ryder yng Nghasnewydd … ond fe allai hynny fod yn newyddion da i gefnogwyr cyffredin.
Ddoe, fe gyhoeddodd y trefnwyr bod rhagor o docynnau ar gael ar ôl llai na’r disgwyl o ddiddordeb gan gwmnïau sy’n cynnig croeso corfforaethol.
Roedd tocynnau wedi dod yn ôl o’r adrannau gwerthiant masnachol, medai Cyfarwyddwr y gystadleuaeth, Richard Hill.
“Mae hyn wedi codi am nad yw Cwpan Ryder, fel llawer cystadleuaeth chwaraeon arall, ddim yn gallu osgoi effeithiau’r cwymp ariannol,” meddai.
Roedd yn mynnu bod y diffyg gwerthiant yn “gyfle positif” i ragor o gefnogwyr gael dod i weld y gystadleuaeth sy’n digwydd yng nghanolfan wyliau’r Celtic Manor ger Casnewydd tros dridiau ym mis Hydref.
Y newyddion drwg yw y bydd tocynnau’n costio £100 y dydd ar gyfer y ddau ddiwrnod cynta’ a £130 am y diwrnod ola’ pan ddylai’r cystadlu fod yn cyrraedd ei benllanw.
Llun: Y Celtic Manor (llun cyhoeddusrwydd)