Mae’n rhaid i’r Weinyddiaeth Amddiffyn roi’r gorau i “fyw y tu hwnt i’w chyllideb” a thorri’n ôl ar wario yn y dyfodol, yn ôl adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Mae’r Swyddfa Archwilio Brydeinig yn cyhuddo’r adran o beidio â rhoi digon o bwyslais ar reolaeth ariannol, ac o greu mwy o gostau i’r trethdalwyr.

Roedd y weinyddiaeth wedi ceisio gwneud gormod gyda rhy ychydig o arian gan adael diffyg ariannol o gannoedd o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn.

Rhybudd

Fe fydd y diffyg yn tyfu i £36 biliwn dros y degawd nesaf os nad yw pethau’n gwella, medden nhw.

Mae’r llywodraeth newydd yn San Steffan yn y broses o gynnal Adolygiad Gwario Strategol er mwyn ffrwyno gwario cyhoeddus gwahanol adrannau yn Whitehall ac fe fydd adolygiad hefyd o’r maes amddiffyn.

“Y cwestiwn mawr i’r Weinyddiaeth Amddiffyn yw a fyddan nhw’n gallu rheoli eu harian fel nad ydyn nhw’n byw y tu hwnt i’w gallu i dalu,” meddai Amyas Morse, Archwilydd Cyffredinol Prydain.

Cyfle i roi trefn

“Fe fydd yr Adolygiad Gwario Strategol yn rhoi cyfle i’r weinyddiaeth roi trefn ar bethau yn y tymor byr.

“Yr her fawr wedyn fydd cadw eu cynlluniau gwario o fewn eu gallu i dalu amdanyn nhw yn y tymor hir.

“Dyw’r adran ddim yn rhoi digon o bwyslais ar reolaeth ariannol i wneud hynny ar hyn o bryd.”

‘Dewisiadau anodd’

Ym marn yr AS Ceidwadol, Richard Bacon, sy’n aelod o Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn dioddef o “ddolur rhydd ariannol”.

“Mae yna ddewisiadau anodd a poenus o’u blaenau nhw a dyw ochrgamu ariannol y Weinyddiaeth heb wneud argraff dda iawn arna’i i,” meddai.

Cyfeiriodd y Swyddfa Archwilio Brydeinig at duedd y Weinyddiaeth Amddiffyn i ddiwygio ei chyllideb yn ystod y flwyddyn ariannol.