Fe fyddai ffermwyr yn cael eu talu am bori eu hanifeiliaid ar dir uchel, yn ôl argymhellion newydd gan fudiad gwyrdd.

Yn ôl Cyfeillion y Ddaear, mae bwydydd anifeiliaid sy’n dod o Dde America yn arwain at ddinistrio bywyd gwyllt a choedwigoedd glaw.

Maen nhw eisiau gweld newid y drefn er mwyn annog ffermwyr i fagu anifeiliaid mewn dulliau mwy naturiol a llai dwys, gan fyw ar gnydau brodorol. Fe fyddai hynny’n golygu rhoi arian at bori llai dwys ac at bori ar dir uchel.

Clirio coedwigoedd

Mewn adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, maen nhw’n dweud bod coedwigoedd yn Ne America’n cael eu clirio er mwyn plannu soy ar gyfer bwyd anifeiliaid.

Eu dadl yw y byddai’n bosib tyfu hanner y bwydydd hynny yng ngwledydd Prydain – trwy gnydau fel rêp a blodau haul a phori anifeiliaid ar laswellt a meillion.

Roedd eisiau newid grantiau’r Undeb Ewropeaidd i wobrwyo ffermwyr oedd yn defnyddio dulliau mwy amgylcheddol iach – mae dinistrio coedydd hefyd yn gollwng carbon i’r amgylchfyd.

Dinistriol

Mae’r mudiad yn rhoi’r bai ar archfarchnadoedd a’r Undeb Ewropeaidd am orfodi ffermwyr i ddibynnu ar fewnforion dinistriol.

“Mae llawer o bobol yn dewis llaeth a chig o Brydain heb sylweddoli bod yr anifeiliaid yn cnoi ar fwy sydd wedi ei gynhyrchu trwy ddinistrio bywyd gwyllt a choedwigoedd glaw De America,” meddai Sandra Bell, uwch ymgyrchydd bwyd gyda Chyfeillion y Ddaear.

Llun: Ffa Soya (Rachel Kramer)