Mae BP wedi cytuno i werthu rhywfaint o’i asedau i gwmni arall er mwyn codi arian i dalu am y gwaith o glirio’r llygredd olew yng Ngwlff Mecsico.

Bydd y cwmni Prydeinig yn gwerthu asedau yn yr Aifft a Gogledd America, gan gynnwys tir yn  nhalaith Texas a Canada, i Apache Corp am $7 biliwn (£4.5 biliwn).

Mae BP eisoes wedi dweud eu bod nhw’n gobeithio gwerthu tua $10 biliwn o asedau yn ystod y 12 mis nesaf i dalu am y trychineb amgylcheddol.

Cameron ‘yn deall’

Ddoe dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron ei fod yn deall pam fod yr Unol Daleithiau yn anhapus gyda BP a galwodd ar y cwmni i dalu “iawndal priodol”.

Ond ychwanegodd bod “miloedd o swyddi bob ochr i’r Iwerydd yn dibynnu ar y cwmni” a’i fod o “er budd y ddwy wlad ei fod yn gwmni cryf a sefydlog yn y dyfodol”.

Mae’r olew yng Ngwlff Mecsico wedi bod yn gollwng ers i lwyfan Deepwater Horizon ffrwydro, gan ladd 11 o weithwyr, ar 20 Ebrill. Yr wythnos hon, am y tro cyntaf, fe lwyddodd BP i atal yr olew rhag gollwng.

Dywedodd BP y byddai cwmni Apache o Houston, Texas, yn talu blaendal o $5 biliwn ar 30 Mehefin.

‘Buwch mewn cae’

Fe fydd yr asedau yn Texas yn costio $3.1 biliwn, yr asedau yng Nghanada yn costio $3.25 biliwn, a’r asedau yn yr Aifft yn costio $650 miliwn.

Yn ôl prif weithredwr Apache, Steven Farris, roedd hwn yn “gyfle prin” i brynu asedau gan “gwmni olew mawr”.

Ychwanegodd bod eu strategaeth yn debyg i “ddilyn buwch drwy gae ŷd a magu bol ar y briwsion sydd ar ôl”.