Fe fydd y Seintiau Newydd yn wynebu un o glybiau mawr Ewrop ar ôl curo’r Bohemians o Iwerddon yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Fe lwyddodd pencampwyr Cynghrair Cymru i guro’r clwb o Ddulyn o 4-0 yng Nghroesoswallt neithiwr, gan sicrhau sgôr o 4-1 tros ddau gymal y rownd ragbrofol. Anderlecht o Wlad Belg fydd nesa.

Roedd y Seintiau ar y blaen o fewn chwe munud ar ôl i Matty Williams greu’r cyfle i Craig Jones gyda phas dda – ar ôl 20 munud, roedden nhw 3-0 ar y blaen ar ôl goliau gan Williams ei hun a Chris Sharp.

Roedd yna gyfleoedd i’r ddwy ochr cyn i Matty Williams sgorio’r bedwaredd yn yr ail hanner a sicrhau mai’r Seintiau yw’r ail dîm o Gymru i ennill rownd ym mhrif gystadleuaeth Ewrop. Y Barri oedd yr unig rai i lwyddo cyn hyn.

Anderlecht – nos Fawrth

Mae’n golygu y bydd y Seintiau’n chwarae dau gymal yn erbyn Anderlecht, sydd wedi ennill pencampwriaeth Gwlad Belg 30 o weithiau.

Mae’r gêm gartref yn y Cae Ras yn Wrecsam ddydd Mawrth nesa a dyna fydd yr ail dro i Anderlecht chwarae yno. Fe gurson nhw Wrecsam yn 1976 ar eu ffordd i ennill Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop.

Petaen nhw’n curo Anderlecht, fe fyddai’r Seintiau’n mynd trwodd i rowndiau grŵp y gystadleuaeth. Hyd yn oed petaen nhw’n colli, mae’r Seintiau bellach yn sicr o gael gêm ail-gyfle i fynd i gystadleuaeth yr Europa.

“Roedd hi’n anhygoel ennill 4-0 yn erbyn tîm fel y Bohemians,” meddai rheolwr y Seintiau, Mike Davies. “Fe weithiodd popeth yn dda heno a dw i’n falch iawn tros y bechgyn.”

Llun: Y Cae Ras – Anderlecht ar y ffordd