Mae archwiliad mewnol wedi dangos gwendidau sylweddol mewn rheolaeth ariannol yn Adran Economi a Thrafnidiaeth y Llywodraeth.

Roedd y diffygion yn ddigon i achosi peryg o dwyll ac roedd hanner yr argymhellion yn yr adroddiad yn cael eu hystyried yn bwysig ac angen sylw ar unwaith.

Fe ddywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones wrth y BBC bod gwelliannau eisoes wedi eu gwneud. Ef yw’r gweinidog yn yr adran.

Beio gweision sifil

Yn ôl un cyn weinidog yn yr adran, roedd y bai ar rai o’r uwch weision sifil – fe ddywedodd yr AC Andrew Davies wrth Radio Wales bod yr adroddiad yn dangos methiannau difrifol mewn rheolaeth ariannol.

Roedd hefyd yn amau mai’r methiannau oedd yn gyfrifol am y penderfyniad i gael gwared ar gymaint â 300 o swyddi o’r adran – fe gafodd y cyhoeddiad hwnnw ei wneud ddoe.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi beirniadu, gan ddweud bod yr adroddiad yn un rhestr hir o fethiannau.

Techniums

Roedd y gwendidau mwya’ yn y rhannau o’r adran sy’n ymwneud â phriffyrdd a chynllun y Techniums – 12 o ganolfannau arbenigol ar draws Cymru sydd i fod i helpu meithrin busnesau newydd.

Fe gadarnhaodd Ieuan Wyn Jones bod eu dyfodol nhw’n cael ei ystyried ar hyn o bryd – y disgwyl yw y gallai’r cynllun ddod i ben yn yr hydref.

“Ryden ni wedi edrych ar adroddiad yr Archwilydd,” meddai. “Mae rhai gwendidau wedi eu nodi. Erbyn eleni, mae gwelliant mawr wedi bod.”