Mae’r Prif Weinidog wedi dweud dylai bomiwr Lockerbie fod wedi marw yn y carchar.
Mae David Cameron yn yr Unol Daleithiau i gwrdd â’r Arlywydd, Barack Obama, a grŵp o seneddwyr er mwyn trafod eu pryderon ynglŷn â’r penderfyniad i ryddhau Abdelbaset al-Megrahi a’i anfon adref i Libya.
Fe wadodd David Cameron honiadau bod gan gwmni olew BP ran yn y penderfyniad – mae rhai seneddwyr yn dweud bod hynny’n rhan o ymdrech i gael cytundeb olew gyda Libya.
Beio’r Alban
Roedd David Cameron yn pwysleisio mai Llywodraeth yr Alban oedd wedi penderfynu gollwng al-Megrahi – fe wrthododd y syniad o ymchwiliad ond fe addawodd edrych eto ar y dogfennau.
“Roedd y penderfyniad i ryddhau al-Megrahi yn anghywir. Fe ddywedais hynny ar y pryd,” meddai David Cameron.
“Llywodraeth yr Alban oedd wedi gwneud y penderfyniad, yn dilyn proses briodol a’r hyn yr oedden nhw’n ei ystyried yn rheswm trugarog”
Marw yn y carchar
“Roedd wedi ei gael yn euog o lofruddio nifer fawr o bobol ac, yn fy marn i, fe ddylai fod wedi marw yn y carchar. Fe ddywedais hynny ar y pryd a dyna yw fy marn heddiw,” ychwanegodd David Cameron.
Mae’r Prif Weinidog wed gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, Syr Gus O’Donnell sicrhau bod yr holl ddogfennau “a ddylai fod yn gyhoeddus” ynglŷn â’r achos yn cael eu cyhoeddi.
Llun: David Cameron a Barack Obama wedi eu cyfarfod (PA)