Dydi ffermwyr ddim yn cael eu gwobrwyo am gynhyrchu bwyd erbyn hyn, yn ôl Llywydd NFU Cymru.

Dywedodd Dai Davies wrth Golwg360 y byddai yna gynnydd mawr mewn galw am fwyd wrth i boblogaeth y byd gynyddu yn gyflym dros yr 20 mlynedd nesaf.

“Dyw’r farchnad ddim yn talu digon i ffermwyr,” meddai. “Y mwyaf o fwyd – cig eidion neu ddefaid – y mae ffermwyr yn ei gynhyrchu, y mwyaf y golled ariannol sydd.”

Sgil effaith hynny ydi bod ffermwyr yn cadw llai o anifeiliaid ac yn dibynnu mwy ar daliadau cyhoeddus sy’n ymwneud â chynnal yr amgylchedd, meddai.

Ewrop

Roedd yn siarad wrth i Is-bwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad ddatgelu eu hargymhellion ynglŷn â dyfodol y Polisi Amaethyddol Cyffredin.

Galwodd y Pwyllgor ar y Llywodraeth i sicrhau na fydd diwygio polisi cymorth amaethyddol yr Undeb Ewropeaidd yn 2013 yn amharu ar incwm ffermwyr.

Pe baen nhw’n torri nôl ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin, a rhoi cyfran mwy o’r arian i aelodau newydd dwyrain Ewrop, mae yna berygl y bydd llai yn dod i gefn gwlad Cymru, meddai.

“Mae ffermwyr yn dibynnu ar daliadau cyhoeddus o Ewrop,” meddai Dai Davies.

“Ond mae pob un o’r 27 aelod yr Undeb Ewropeaidd o dan bwysau economaidd.

“Dwi’n gobeithio y bydd llywodraethau’r byd yn dechrau sylweddoli beth sy’n digwydd, a bod angen buddsoddi mewn cynhyrchu bwyd.”