Mae Cyngor Sir Ddinbych yn mynnu bod pobol yr ardal eisiau gweld cerflun o’r anturiwr HM Stanley yn nhref Dinbych, er gwaethaf ymgyrch yn ei erbyn.
Mae’r newyddiadurwr gafodd ei eni yn y dref yn enwog am ei eiriau ‘Dr Livingstone, I presume?’ yn ystod ei anturiaethau yn Affrica.
Goroesodd ddechrau anodd i’w fywyd. Cafodd ei yrru i fyw mewn wyrcws yn Llanelwy yn blentyn ifanc ac arhosodd yno tan ei fod o’n 15 oed.
Yn 18 oed gadawodd am yr Unol Daleithiau ac ar ôl cymryd rhan yn Rhyfel Cartref yr Unol Daleithiau (ar y ddwy ochr) fe aeth yn newyddiadurwr.
Er gwaethaf ei enwogrwydd mae o hefyd yn ddrwg-enwog am gam drin pobol brodorol Affrica, ac o’u saethu nhw “fel petai nhw’n fwnciod”, yn ôl ei gyfoedion.
Mae ymgyrch yn erbyn y cerflun £31,000 yn awgrymu na ddylai’r dref ddathlu’r anturiaethwr oherwydd ei droseddau.
Ymysg y rhai sy’n ymgyrch yn ei erbyn mae’r darlithydd hanes o Brifysgol Bangor, Selwyn Williams.
Ond mynnodd y cyngor sir fod canlyniadau holiadur y maen nhw wedi’i gynnal yn “cadarnhau fod trigolion am weld cofeb yn Ninbych a Llanelwy”.
“Er ein bod ni’n derbyn y bydd gan rai bobl farn gwahanol, mae holiadur, gafodd ei ddosbarthu’n eang yn yr ardal fel rhan o’r broses ymgynghori, yn dangos ymateb hynod o bositif gan drigolion Llanelwy a Dinbych,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych wrth Golwg360.
“Mae’r canlyniadau wedi cadarnhau fod trigolion lleol am weld cofeb i HM Stanley yn Ninbych a Llanelwy.”
‘Dyn ei amser’
“Dw i’n hapus iawn am y peth yn bersonol. Dyn ei amser oedd o… mae rhai pobol wedi cymryd HM Stanley allan o’i gyd-destun,” meddai Medwyn Jones o Gyngor Tref a Chymuned Dinbych wrth Golwg360.
“Mae pawb yn gwybod am HM Stanley ac yn falch bod un o hogiau Dinbych wedi gwneud cystal – ac yntau wedi cael dechrau mor drist.
“Am flynyddoedd, mi fuodd pobol Dinbych yn ansicr o HM Stanley, ond ‘dw i’n meddwl fod llyfr Tim Jeal arno wedi bod yn agoriad llygaid i lawer o bobl sydd â diddordeb yn hanes y dref.
“Dw i ddim yn deall pam ein bod ni’n cael gwrthwynebiad rŵan. Mae’r broses wedi bod yn mynd yn ei flaen ers cwpwl o flynyddoedd.”