Bydd y Gweilch yn cychwyn eu hymgyrch yn y Cwpan Heineken oddi cartref yn erbyn Toulon ar 9 Hydref.
Bydd pencampwyr Cynghrair Magners yn wynebu’r clwb Ffrengig a gollodd i’r Gleision yn rownd derfynol Cwpan Amlin y tymor diwethaf yn y Stade Felix Mayol.
Yr wythnos ganlynol bydd y Gweilch yn wynebu Gwyddelod Llundain yn Stadiwm Liberty.
“Does dim amheuaeth ei fod yn mynd i fod yn anodd unwaith eto, ond r’y ni gyd yn edrych ‘mlaen i ddechrau yn erbyn Toulon,” meddai cyfarwyddwr rygbi’r Gweilch, Scott Johnson.
Scarlets
Mae’r Scarlets yn dechrau eu hymgyrch nhw ym Mharc y Scarlets yn erbyn Perpignan ar yr un diwrnod a’r Gweilch.
Mae tîm Nigel Davies yn chwarae yn y Cwpan Heineken eleni diolch i fuddugoliaeth y Gleision yn rownd derfynol y Cwpan Amlin.
Bydd y Scarlets yn teithio i Gaerlŷr ar gyfer eu hail gêm o’r gystadleuaeth yr wythnos ganlynol.
“Fe fydd yn wych i’n cefnogwyr i gael cychwyn gyda gêm gartref ac r’yn ni’n gobeithio elwa o’r fantais o chwarae gartref. Ond r’y ni’n gwybod bod Perpignan yn dîm cryf gyda thraddodiad rygbi cryf,” nododd Nigel Davies.
Dreigiau
Bydd y Dreigiau yn chwarae eu gêm gyntaf o’r gystadleuaeth oddi cartref yn erbyn Glasgow yn Firhill ar 8 Hydref.
Bydd y rhanbarth o Gasnewydd yn croesawu pencampwyr Ewrop ar bedwar achlysur, Toulouse i Rodney Parade ar 16 Hydref.
Gleision
Mae’r Gleision yn gobeithio adeiladu ar eu llwyddiant yn Ewrop tymor diwethaf gyda dechrau da i’w hymgyrch ym mhrif Gwpan Ewrop.
Maen nhw’n herio Caeredin yn eu gêm agoriadol ar 9 Hydref cyn wynebu Castres yn Ffrainc ar y nos Wener ganlynol.