Yn ddisymwth ychydig funudau cyn 4.30 daeth datganiad trwy ebost “Statement on restructuring of Economy & Transport Department.” Ail-strwythuro = torri swyddi. Mae hyd at 300 o swyddi yn y fantol. Manylion yma.
Mae’n wyliau’r Cynulliad, mae’n ddiwedd pnawn ar ddydd Mawrth bach glawog, di-nod ym mis Gorffennaf. Tybed faint yn fwy o gyhoeddiadau o doriadau fydd yn glanio’n ddi-seremoni yn fy mlwch ebyst rhwng nawr a dychweliad y gwleidyddion fis Medi?