Cynyddodd benthyciadau morgais i’r lefel uchaf mewn chwe mis ym mis Mehefin, yn ôl Cyngor y Benthycwyr Morgeisi.
Ond mewn adroddiad ar wahân, mae academyddion wedi rhybuddio y gallai’r nifer o dai sy’n cael eu hailfeddiannu gynyddu’n sylweddol yn 2012.
Yn ôl Cyngor y Benthycwyr Morgeisi, roedd £13.1 biliwn wedi cael ei gymeradwyo gan fenthycwyr morgais ym mis Mehefin.
Ond er bod hyn 15% yn uwch nac ym mis Mai, a 7% yn uwch na’r un cyfnod yn 2009, mae’r cyngor yn rhybuddio mai cynnydd tymhorol yw hyn, ac y bydd y farchnad yn parhau i fod yn wan.
Mae prisiau tai yn sefydlogi ac mae mwy ohonyn nhw’n cael eu rhoi ar y farchnad yn sgîl cael gwared â’r pecynnau gwybodaeth HIPS, meddai un o economegwyr y cyngor, Paul Samter.
Fe allai hynny fod yn hwb i’r farchnad dai, meddai, ond mae’r farchnad yn debygol o gario ‘mlaen i fod yn wan tra bod sefydliadau ariannol yn parhau i fod yn gyndyn i fenthyg arian.
Ailfeddiannu
Cyhoeddwyd adroddiad annibynnol heddiw hefyd gan academyddion o Brifysgol Rhydychen sy’n rhybuddio y gallai 175,000 o gartrefi gael eu hailfeddiannu yn 2012, os na fydd y Llywodraeth yn mynd i’r afael â’r ddyled gyhoeddus.
Ond fe allai llai nag 33,000 o dai gael eu hailfeddiannu yn 2012 pe bai diweithdra yn syrthio’n gyflym, cyfraddau llog yn aros yn isel a phrisiau tai yn codi.
Yn ôl yr adroddioad roedd cyfuniad o oddefgarwch benthycwyr a chymorth gan y Llywodraeth wedi cadw lefelau ailfeddiannu’n isel hyd yma.