Mae undebau amaeth wedi croesawu adroddiad sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd diwygio polisi cymorth amaethyddol yr Undeb Ewropeaidd yn 2013 yn golygu bod ffermwyr Cymru yn colli incwm.
Mae adroddiad Is-bwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad yn dweud y dylai Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) barhau i ddarparu incwm digonol i ffermwyr.
Ac mae’n dweud bod angen parhau â’r cymorth ar gyfer cynhyrchu bwyd mewn ardaloedd anodd eu trin, megis ucheldiroedd Cymru, a bod angen gwrthwynebu “mewn unrhyw ffordd bosibl, unrhyw ymdrechion i ail wladoli’r PAC naill ai’n rhannol neu yn ei gyfanrwydd”.
Ymchwiliad
Roedd yr is-bwyllgor wedi cynnal ymchwiliad i asesu pa effaith allai diwygio PAC ei gael ar y sector yng Nghymru.
“Dangosodd y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad pa mor bwysig yw PAC i’r diwydiant amaeth ac i gefn gwlad Cymru’n gyffredinol,” meddai Cadeirydd yr is-bwyllgor, yr Aelod Cynulliad, Rhodri Glyn Thomas.
“Roedd y pwyllgor yn teimlo bod dyletswydd arno felly i ymuno yn y ddadl am ddyfodol PAC ar ôl 2013.
“Mae cyllid gan Daliad Sengl PAC i gyfri am 90 y cant o incwm ffermydd yng Nghymru ar gyfartaledd ac felly ni ddylid tanbrisio ei werth i ffermwyr Cymru.
“Nod yr adroddiad hwn yw pennu sut y dylai Llywodraeth Cymru gynrychioli buddiannau Cymru yn ystod y broses drafod.
“Rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn fan cychwyn defnyddiol i’r ddadl yng Nghymru ar ddyfodol PAC, a bydd Llywodraeth Cymru’n gwrando ar ganfyddiadau’r pwyllgor.”
Dywedodd llefarydd y bydd Llywodraeth Cymru yn “astudio argymhellion yr is-bwyllgor gyda diddordeb.”
“Bydd y Gweinidog yn ymateb i’r is-bwyllgor cyn bo hir,” meddai.