Fe allai 300 o swyddi gael eu torri wrth i Lywodraeth y Cynulliad ail-strwythuro’r adran economaidd.

Fe fydd o leiaf 250 o swyddi’n mynd, gan leihau nifer y bobol sy’n gweithio yno tua 25%, i 890.

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad y bydden nhw’n trafod gyda staff ac undebau llafur cyn penderfynu faint yn union fyddai’n colli gwaith.

Mae disgwyl cyhoeddiadau pellach ynglŷn â thorri niferoedd staff ym mis Hydref pan fydd y Trysorlys yn Llundain yn penderfynu faint o arian sydd ar gael i sefydliadau datganoledig.

Y gobaith yw y bydd y swyddi yn yr adran economaidd yn cael eu torri drwy ymddeoliad cynnar, ymddiswyddiad gwirfoddol neu drwy symud staff o un adran i’r llall.

Ddechrau’r mis cyhoeddwyd y Rhaglen Adnewyddu’r Economi, adolygiad pwysig o agwedd Llywodraeth y Cynulliad tuag at ddatblygu economaidd.

Datgelodd hwnnw y byddai nifer y gweision sifil yn adran economaidd Llywodraeth y Cynulliad yn cael eu torri wrth iddo gael ei ailstrwythuro i’w wneud o’n “fwy parod i ymateb i anghenion byd busnes”.

Roedd yr adroddiad hefyd yn dweud y byddai cyllideb Llywodraeth y Cynulliad yn cael ei wario’n wahanol yn y dyfodol.

Y nod fydd rhoi llai o grantiau i fusnesau ac i wario’r arian ar fand eang a’r isadeiledd sydd ei angen i hybu’r economi yn lle.