Caewyd gorsaf heddlu ddoe ger Casnewydd ar ôl i aelod o’r cyhoedd fynd a dyfais yno.

Roedd amheuaeth bod y ddyfais, a gafodd ei ddarganfod mewn afon, yn dyddio o’r Ail Ryfel Byd.

Cafodd pobol eu gwahardd rhag mynd o fewn 100 metr i orsaf Heddlu Rhisga toc cyn 6pm, ac fe gafodd traffig ei arallgyfeirio.

Galwyd ar arbenigwyr ffrwydron ond daethon nhw i’r casgliad nad oedd y ddyfais yn beryglus.