Mae’r Seintiau Newydd yn gobeithio rhoi terfyn ar eu record gwan yn Ewrop heno wrth iddynt geisio sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Bohemians yn Park Hall.

Ers colli i Lerpwl 6-0 dros ddau gymal yn 2005, mae pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru wedi colli pob gêm yn Ewrop, heblaw am un.

Mae’r clwb Cymreig un gôl ar ei hôl hi yn dilyn y cymal cyntaf yn Nulyn yr wythnos diwethaf.

Pe bai’r Seintiau Newydd yn llwyddiannus heno, fe fydden nhw’n wynebu cewri pêl droed Gwlad Belg, Anderlecht yn y rownd nesaf.

Ond mae rheolwr y clwb, Mike Davies wedi dweud ei fod yn canolbwyntio ar wynebu’r Gwyddelod yn hytrach na meddwl am y posibiliad o wynebu Anderlecht.

“Fe fyddai’n gêm gyffrous ond mae’n rhaid i ni guro Bohemians yn gyntaf. Dydyn ni ddim yn mynd i feddwl am y gêm nesaf eto,” meddai Mike Davies.

“Yn amlwg fe fyddai’n achlysur mawr, ond mae gennym ni job fawr i’w gwneud heno felly dyna’r prif beth i ni ganolbwyntio arno ar hyn o bryd.”

‘Gem anodd’

Mae rheolwr Bohemians, Pat Fenlon yn credu y bydd y Seintiau Newydd yn her i’w dim a dyw’r Gwyddelod dim yn cymryd dim byd yn ganiataol.

“Roedd hi’n gêm anodd yn Nulyn ac fe fydd yr ail gymal yn rhywbeth tebyg,” meddai Pat Fenlon.

“Dydych chi byth yn cael gemau hawdd yng Nghynghrair y Pencampwyr ac mae’r Seintiau Newydd wedi dangos i bawb eu bod nhw’n dîm da.

“Doedd dim llawer rhwng y timau yn y cymal cyntaf ac fe fydd yr ail gymal yn gêm anodd i ni.”