Mae Llanelli wedi cael ei dirwy o €3,000 gan UEFA am ymddygiad amhriodol yn ystod ail cymal rownd rhagbrofol Cynghrair Europa yn erbyn FK Tauras yn gynharach yn y mis.

Fe gafodd tîm Andy Legg eu cosbi am dderbyn saith cerdyn melyn ac un cerdyn coch yn ystod y gêm.

Cafodd yr amddiffynnwr, Martyn Giles, hefyd ei enwi am ymddygiad treisgar ar ôl ychwiban olaf.

Yn dilyn ymchwiliad gan UEFA, mae’r ymosodwr, Craig Moses wedi cael ei wahardd am dair gêm yn dilyn ei gerdyn coch, a mae Giles wedi derbyn gwaharddiad o ddwy gêm.

Ni fydd y ddau yma ynghyd â Chris Holloway, Chris Venables a Rhys Griffiths ar gael ar gyfer gêm nesaf Llanelli yn Ewrop.

Ond mae’r clwb o Lithwania hefyd wedi cael eu cosbi am eu rhan yn y gwrthdaro ar ôl y gêm.

Cafodd Manatas Lekis ei wahardd am bedair gêm a Marius Kizys ei wahardd am dair gêm.