Mae cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, wedi cadarnhau y bydd y clwb yn cynnal trafodaethau gyda Darren Pratley ynglŷn â chytundeb newydd.
Mae Jenkins wedi gwadu’r sïon bod y chwaraewr canol cae ar fin trosglwyddo i Nottingham Forest.
Sicrhaodd cefnogwyr y clwb y byddai’n gwneud pob ymdrech i gadw eu chwaraewr gorau.
“Nawr bod ein rheolwr newydd wedi cael ei benodi, fe fyddwn ni’n dechrau trafodaethau gyda Darren Pratley ynglŷn â chytundeb newydd,” meddai cadeirydd yr Elyrch.
“Cefais sgwrs breifat gyda Nottingham Forest yr wythnos diwethaf, ac fe fydd hwnnw’n aros yn breifat.
“Mae’r stori ddiweddaraf yn ymdrech gan yr asiantau i roi pwysau arnom. Ond ni fyddwn ni’n cael ein bwlio gan neb.
“Galla’i sicrhau’r cefnogwyr na fydd neb yn gadael y clwb yma oni bai bod y cytundeb yn iawn i ni, ac nad oes unrhyw opsiwn arall.”
Mae gan Darren Pratley flwyddyn ar ôl ar ei gytundeb presennol ac fe allai adael Abertawe i ymuno â chlwb arall am ddim yr haf nesaf.