Does dim lle i’r Cymro Phil Price ymysg is-gapteiniaid tîm Cwpan Ryder Ewrop.

Cyhoeddodd y capten Colin Montgomerie y byddai ganddo dri is-gapten ar gyfer y gystadleuaeth yn Celtic Manor rhwng 1 a 3 Hydref.

Mae o wedi dewis Thomas Bjorn o Ddenmarc a’r Gwyddelod Paul McGinley a Darren Clarke.

Mae’r cyhoeddiad bod Clarke yn rhan o dîm cynorthwyo Ewrop yn dipyn o sioc gan fod rhai yn credu fod ganddo obaith o gael ei ddewis i chwarae yn y Cwpan Ryder.

Ond mae’r gŵr o Ulster wedi cytuno i ymuno gyda Colin Montgomerie i arwain tîm Ewrop wrth iddynt geisio adennill y tlws oddi ar yr Unol Daleithiau.

Roedd yna sïon y byddai Phil Price yn cael ei ddewis i gynorthwyo’r tîm Ewropeaidd. Roedd Colin Montgomerie wedi dweud yn y gorffennol ei fod o’n awyddus i gynnwys Cymro ymysg y staff cynorthwyol.

Roedd Phil Price yn rhan o dîm Ewrop enillodd y Cwpan Ryder yn 2002. Maeddodd y Cymro rhif dau presennol y byd, Phil Mickelson ar ddiwrnod olaf y gystadleuaeth i sicrhau pwynt holl bwysig i sicrhau’r fuddugoliaeth.

“Mae gan bob tîm llwyddiannus arweinwyr gwych y tu cefn i’r llenni ac mae’n bleser cael cyflwyno tri pherson profiadol sy’n gwbl ymroddedig i ad-ennill y Cwpan Ryder yng Nghymru,” meddai Colin Montgomerie.

“Ni fydd mwy o is-gapteiniaid yn cael eu dewis, dyma’r tri fydd yn fy helpu i ennill y Cwpan Ryder.”