Mae dau ddyn o’r Wyddgrug wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon bore heddiw ac mae un ohonynt wedi cyfaddef iddo ladd dyn.

Plediodd Gafyn Denman, 22 oed, yn euog o ddynladdiad Peter Jones, 24 oed, o Fwcle.

Cyfaddefodd Ross Taylor, 22 oed, iddo achosi niwed corfforol i dad y dyn gafodd ei ladd, Peter Jones Snr.

Fe fu farw Peter Jones ar ôl ymosodiad arno ar 9 Mai. Gwadodd Gafyn Denman ei fod o wedi ymosod ar Peter Jones Snr, ond fe fydd y cyhuddiad yn aros ar y ffeil.

Roedd Peter Jones ar noson allan gyda Peter Jones Snr pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Bydd y ddau yn cael eu dedfrydu ar 27 Awst yn Llys y Goron Caernarfon.