Mae degau o bobol ar goll ac o leiaf 37 wedi marw yn nhaleithiau Sichuan a Shaanxi yn China, ar ôl dyddiau o lifogydd difrifol.
Ardaloedd ger basn Afon Yangtze sydd wedi cael eu taro waethaf, ac yn ôl adroddiadau, mae tirlithriadau wedi claddu tai a ffyrdd, ac mae pobol wedi cael eu gorfodi i ddianc o’u cartrefi.
Dywedodd Llywodraeth China fod 146 o bobol wedi marw eisoes yn sgil stormydd yr haf, a bod 40 yn dal i fod ar goll.
Ond wrth i’r stormydd barhau, mae’r ffigurau yma yn sicr o gynyddu.
Honnodd y llywodraeth fod Argae’r Tri Cheunant – yr argae mwyaf yn y byd – wedi dal y rhan fwyaf o’r dwr yn ôl. Cafodd ei adeiladu pedair mlynedd yn ôl.
Cafodd dros filiwn o bobol eu gorfodi i adael eu cartrefi er mwyn i’r argae gael ei adeiladu.
Amcan ei adeiladu oedd rheoli’r difrod sy’n cael ei achosi gan lifogydd cyson.