Mae cynghorydd o Gaerdydd yn wynebu gwrandawiad disgyblu ar ôl ysgrifennu ar wefan Twitter fod yr Eglwys Scientoleg yn “dwp”.
Yn ôl papur newydd y Western Mail, mae Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi dweud ei bod hi’n debygol fod John Dixon wedi torri cod ymddygiad ei swydd.
Bydd yr achos yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Safonau a Moeseg Cyngor y Brifddinas.
Roedd John Dixon yn Llundain y flwyddyn ddiwethaf pan ‘sgrifennodd:
“Wyddwn i ddim fod gan y Scientolegwyr eglwys ar Stryd Tottenham Court. Rydw i newydd frysio heibio rhag ofn mod i’n dal y twpdra.”
Ar ôl darganfod fod aelodau o’r Eglwys wedi dechrau derbyn ei negeseuon Trydar, dywedodd:
“Newydd sylwi bod y Scientolegwyr yn fy nilyn i. Brysiwch pawb, smaliwch nad ydych chi yma.”
Mae John Dixon yn honni mae ‘sgrifennu o safbwynt personol yr oedd, ac nid fel cynghorydd.
Ond mae’r Eglwys Scientoleg yn honni fod y neges yn amharu ar ryddid crefyddol, a bod ei safbwynt yn un swyddogol gan mai CllrJohnDixon oedd enw’r cyfri Trydar ar y pryd.
Cafodd yr Eglwys Scientoleg ei sefydlu yn yr 1950au gan awdur ffuglen, ac mae rhai o sêr Hollywood ymysg y dilynwyr heddiw.