Mae criw caban British Airways wedi gwrthod cynnig terfynol y cwmni awyrennau er mwyn dod a’u hanghydfod diwydiannol i ben, gan awgrymu y bydd mwy o streicio cyn bo hir.
Pleidleisiodd aelodau Unite o 3,419 i 1,686 yn erbyn y cynnig, gan barhau’r ddadl ffyrnig ynglŷn â chostau, consesiynau teithio a materion disgyblu.
Roedd Unite wedi gofyn i tua 11,000 o’u haelodau bleidleisio ond heb ddweud sut y dylen nhw wneud hynny. Fe fydd arweinwyr yr Undeb yn cwrdd nawr er mwyn trafod y cam nesaf.
Mae criw caban British Airways wedi streicio am 22 niwrnod ers mis Mawrth, gan gostio mwy nag £150m i’r cwmni.
Mae’r undeb yn ystyried cynnal pleidlais ynglŷn â mwy o streicio, fyddai’n digwydd ym mis Medi.
Gohiriodd Unite bleidlais ar streicio’r wythnos diwethaf ar ôl i BA roi’r cynnig newydd o’u blaenau nhw.
Dechreuodd y ddadl y flwyddyn ddiwethaf ar ôl i BA ddatgelu eu bod nhw’n mynd i dorri nifer y criw cabin oedd ar bob awyren.
Ond datblygodd yr anghydfod ymhellach ar ôl i’r cwmni gymryd consesiynau teithio staff oedd wedi streicio oddi arnyn nhw.