Mae awdurdod chwaraeon Cymru wedi dweud y dylai Cymru gipio 35 medal yng Ngemau Gymanwlad 2014 yng Nglasgow.
Mae’n un o gyfres o dargedau uchelgeisiol ar gyfer athletwyr Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad, Gemau Olympaidd a Gemau para Olympaidd sydd i ddod wedi’u gosod heddiw.
Yn ôl y strategaeth rhaid i Gymru:
• Ddod ar frig y tabl am y nifer o fedalau yn ôl poblogaeth
• Ennill rhwng chwech a deg medal yng Ngemau Olympaidd 2012 a 2016
• Ennill o leiaf 30 medal yng Ngemau para Olympaidd 2012 a 2016
Dywedodd cadeirydd Chwaraeon Cymru, yr Athro Laura McAllister mai nod y targedau fydd sicrhau “bod Cymru yn chwarae rhan yn llwyddiant Prydain”.
“Er mwyn i Gymru gael ei gweld fel gwlad lwyddiannus ym myd chwaraeon, mae’n rhaid iddi fod yn genedl sy’n disgwyl ennill.
“R’yn ni’n genedl fach, ond un sy’n gwneud yn well nag sydd i’w ddisgwyl ar y llwyfan rhyngwladol.
“Nod ein strategaeth fydd sicrhau bod y llwyddiant yna yn parhau.”
‘Uchelgais fawr’
“Mae Cymru yn wlad fach ag uchelgais fawr,” meddai’r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones, sydd â chyfrifoldeb dros chwaraeon.
“Rydym yn awyddus i ennill medalau yn y digwyddiadau chwaraeon mawr fel y Gemau Olympaidd, y Gemau para Olympaidd a Gemau’r Gymanwlad.
“Rydym yn awyddus hefyd i ennill pencampwriaethau Byd ac Ewrop ac i fod yn adnabyddus ledled y byd am ein llwyddiannau o ran chwaraeon.”