Mae canolwr y Gweilch a Chymru yn dweud ei fod yn bwriadu dychwelyd i chwarae rygbi yn dilyn 15 mis ar yr ystlys. Ei nod nawr yw chwarae yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd.
Dyw Gavin Henson ddim wedi dychwelyd i ymarfer gyda’r Gweilch i baratoi ar gyfer y tymor newydd eto. Mae’n dweud y gallai symud i Loegr neu Ffrainc pe bai pethau ddim yn gweithio ma’s gyda’r rhanbarth Cymreig.
“Sa’ i erioed wedi chwarae mewn Cwpan y Byd, ac fe hoffwn i i’r plant fy ngwylio i’n chwarae,” meddai Henson wrth bapur y Western Mail heddiw.
“Rwy’n gwybod bod pobl yn ymddeol yn 32 neu 34 oed, ond rwy’n credu y galla’ i chwarae ymlaen oherwydd fy mod i yn edrych ar ôl fy hun.”
Teg edrych tua Lloegr?
“Pe bai pethau ddim yn gweithio ma’s gyda’r Gweilch, fe fydd yn rhaid i mi edrych tuag at Loegr neu Ffrainc,” meddai Gavin Henson wedyn.
Mae’n dweud ei fod wedi rhoi’r gorau i chwarae rygbi dros dro oherwydd ei fod wedi colli ei awch.
“Roeddwn i wedi cael digon ar y gêm,” meddai. “Doedd gen i ddim awydd ymarfer.
“Roeddwn i wedi cael nifer o anafiadau am ddwy neu dair blynedd, ac fe fydden i ma’s am saith mis, yna’n dychwelyd am fis cyn cael fy anafu eto.
“Roeddwn i wedi ymarfer am ddeng mlynedd, ac roedd angen hoe ar fy nghorff.”