Fe ddringodd ffrindiau agos a theulu’r diweddar Geraint George i ben y Wyddfa dros y Sul, er mwyn dathlu ei fywyd. Fe fu’r amgylcheddwr a’r darlithydd farw yn gynharach eleni.
Mae’n debyg mai dringo i ben mynydd ucha’ Cymru oedd nod Geraint George ar ei ben-blwydd yn 50 oed ar 21 Gorffennaf.
“Roedd teulu yno, a nifer o ffrindiau Geraint. Fe aethon ni i fyny o Ben-y-Gwryd fore Sadwrn – ac fe gododd y tywydd wrth i ni fynd i fyny – er ei bod hi’n gymylog ar y top,” meddai un o’r criw.
“Roedd tristwch yn perthyn i’r daith, ond dathlu ei fywyd o oeddan ni. Roeddan ni’n meddwl amdano drwy’r adeg.”
Roedd Geraint George yn ddarlledwr ac awdur amlwg ym maes natur a’r amgylchedd, ac ef oedd Cyfarwyddwr y cwrs Rheolaeth Cefn Gwlad ym Mhrifysgol Bangor.