Mae newyddiadurwr wedi cael ei saethu’n farw yng ngwlad Groeg yn gynnar y bore yma.
Yn ôl adroddiadau, fe gafodd Sokratis Giolias, 37, ei saethu fwy na’ 15 o weithiau tu allan i’w gartref yn ardal Ilioupoli yn nwyrain Athen.
Roedd yn gyfarwyddwr gorsaf radio preifat o’r enw Thema FM yn y ddinas, ac roedd yn ysgrifennu blog poblogaidd, Troktiko, oedd yn aml yn ymdrin â sgandalau.
Saethu dau neu dri
Mae adroddiadau fod dau neu dri o ddynion wedi ei saethu, ond does dim gwybodaeth ar hyn o bryd am y rheswm pam.
Mae’r heddlu’n ymchwilio i weld os oes cysylltiad rhwng y saethu a char a ddarganfuwyd yn llosgi yn agos i’r digwyddiad.
Roedd Sokratis Giolias yn briod ac yn dad.