Fe fydd pedwar cwango arall yn cael eu dileu wrth i lywodraeth glymblaid Prydain barhau â’r gwaith o ail-drefnu cyrff cyhoeddus.

Fe fydd y Bwrdd Strategol Cynghorol dros Hawliau Eiddo Deallusol (SABIP) yn cau o fewn y flwyddyn, yn ogystal â SITPRO – Symleiddio Masnach Ryngwladol, a’r Bwrdd Cynghorol ar Wastraff Trydan ac Offer Trydanol – WAB.

Fe fydd Corfforaeth yr Adeiladwyr Llong Brydeinig yn cael ei ddiddymu flwyddyn nesaf hefyd.

Costau

Fe fydd gwaith SABIP yn symud i’r Swyddfa Eiddo Deallusol, a bydd gwaith y gweddill yn cael ei gymryd gan yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau.

Ar hyn o bryd yn ôl y Llywodraeth, mae cynnal y pedwar corff yn costio £8.62 miliwn y flwyddyn.

“Rydyn ni wedi ymroi’n llwyr i leihau nifer, a chostau’r cwangos nad ydyn ni eu hangen bellach,” meddai’r Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable.

“Wrth ddod â’r swyddogaethau yma yn ôl mewn i’r llywodraeth, rydyn ni’n gwneud eu gweithgareddau yn fwy atebol, ac yn gallu lleihau’r costau gweinyddol sylweddol.”


17 wedi mynd

Mae 17 cwango o’r Adran Fusnes bellach wedi cael eu diddymu, eu huno, neu wedi colli cefnogaeth ariannol, ers i glymblaid y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol ddod i rym.