Mae 56 o bobol wedi marw yn nwyrain India heddiw, ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau drên, meddai heddlu rheilffyrdd y wlad.
Ond, mae’r Gweinidog Rheilffyrdd, Mamata Banerjee yn amau nad damwain oedd hi.
“Mae ganddon ni rai amheuon,” meddai wrth deithio i’r safle i ymchwilio.
Yr oriau mân
Fe ddigwyddodd y ddamwain tua 2am ar ôl i dren yr Uttarbanga Express fynd i mewn i’r Vananchal Express wrth iddo adael y platfform yng ngorsaf Sainthia, tua 125 milltir i’r gogledd o Calcutta.
Fe wnaeth y gwrthdrawiad ddinistrio dau gerbyd teithwyr ac un cerbyd a oedd yn cario bagiau.
Mae achubwyr wedi dod o hyd i 56 o gyrff ac yn dweud fod 125 o bobol eraill wedi’u hanafu, meddai Surajit Kaur Purkayastha – uwch swyddog heddlu yn yr ardal.
Roedd dau o yrwyr trên ymhlith y meirw.
Ail drên mewn dau fis
Dyma’r ail wrthdrawiad mawr yn nhalaith gorllewin Bengal o fewn y ddau fis diwethaf.
Mae damweiniau’n gyffredin ar rwydwaith rheilffyrdd gwasgarog India. Mae’n debyg mai cynnal a chadw gwael sy’n bennaf gyfrifol am ddigwyddiadau o’r fath.