Mae rhoddion i elusennau wedi disgyn bron 10% yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, meddai arolwg heddiw.

Mae tua 23% o’r bobol a gafodd eu holi yn yr arolwg wedi cyfaddef rhoi llai o arian i elusen nac yn yr un cyfnod yn 2009.

Dim ond 10% o bobol oedd yn dweud eu bod nhw wedi rhoi mwy. Doedd chwarter y bobol a gafodd eu holi ddim wedi rhoi unrhyw arian i elusen yn ystod chwe mis cynta’r flwyddyn, tra bod 48% yn rhoi hyd at £50, yn ôl Investec Bank.


Rhoi dim

Ymhlith y rhai a wnaeth leihau eu rhoddion, wnaeth 6% ddim rhoi dim byd o gwbwl i achos da, tra bod 5% wedi mwy na haneru faint oedden nhw’n arfer ei roi.

Yn gyffredinol, mae’r grŵp yn amcangyfrif bod elusennau wedi dioddef gostyngiad 9.6% mewn rhoddion yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn.

“Yn yr oes hon o galedi, mae ein canfyddiadau’n awgrymu bod elusennau’n dioddef o ostyngiad mewn rhoddion wrth i bobl gael llai o arian,” meddai Jack Jones o Investec Bank.

Fe wnaeth Research Plus holi 2,000 o bobol yn ystod Mehefin.