Mae pobl De Affrica’n dathlu penblwydd Nelson Mandela heddiw trwy blannu planhigion mewn gerddi, paentio clinigau a hybu cymod rhwng pobl a’i gilydd.
Roedd Nelson Mandela ei hun, sy’n 92 heddiw, yn treulio’r dydd gyda’i deulu yn Johannesburg tra aeth ei wraig i gartref plant amddifad yn Soweto i helpu plannu gardd lysiau.
Dywedodd Graça Machel fod heddiw’n ddiwrnod i bobl ddweud “Gallaf estyn fy naioni at bobl eraill”.
Nod Diwrnod Mandela, a gafodd ei sefydlu y llynedd, yw diwrnod rhyngwladol wedi ei neilltuo ar gyfer cyflawni gweithredoedd da ar ddiwrnod penblwydd cyn-arlywydd De Affrica ac arweinydd y frwydr yn erbyn apartheid yn y wlad.
Llun: Nelson Mandela a’i wraig Graça Machel yn ymweld â seremoni derfynol Cwpan y Byd yr wythnos ddiwethaf (Michael Kooren/Reuters)