Fe fydd lluoedd arfog Prydain yn gadael Afghanistan erbyn 2014 yn ôl dogfen gyfrinachol ar gynlluniau’r cynghreiriaid rhyngwladol i dynnu’n ôl o’r wlad.
Mae disgwyl y bydd Arlywydd Afghanistan, Hamid Karzai, yn cyhoeddi amserlen ar gyfer trawsnewid trefniadau diogelwch y wlad mewn cynhadledd ryngwladol yn Kabul yr wythnos yma.
Yn ôl y ddogfen, a ddaeth i law’r Independent on Sunday, mae lluoedd Nato am ddechrau tynnu’n ôl o’r wlad o fewn misoedd, gyda lluoedd diogelwch cenedlaethol Afghanistan yn gyfrifol am weithrediadau milwrol erbyn diwedd 2014.
Mae’r ddogfen yn cadarnhau awgrym diweddar gan yr Ysgrifennydd Tramor William Hague am luoedd Prydain yn gadael Afghanistan erbyn 2014, ond roedd wedi pwysleisio’r un pryd nad oedd y Llywodraeth yn “gosod amserlen o ran beth sy’n digwydd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf”.
Cynhadledd
Bydd William Hague yn mynychu’r gynhadledd ryngwladol yn Kabul dydd Mawrth, ynghyd ag Ysgrifennydd Gwladol America, Hillary Clinton, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon a gweinidogion tramor o dros 70 o wledydd.
Mae’r ddogfen yn datgan: “Fe wnaeth y gymuned ryngwladol ddatgan ei gefnogaeth i amcan Arlywydd Afghanistan y dylai Lluoedd Diogelwch Cenedlaethol Afghanistan arwain a chynnal gweithrediadau milwrol ym mhob talaith erbyn diwedd 2014.”
Mae’n mynd ymlaen i addo y bydd y gymuned ryngwladol yn parhau i “ddarparu’r cymorth angenrheidiol i gynyddu diogelwch yn ystod yr amser yma, a pharhau â’r cymorth gyda hyfforddi ac arfogi Lluoedd Diogelwch Cenedlaethol ar bob lefel i ymgymryd â’r dasg o ddiogelu eu gwlad.”
Dywed y ddogfen hefyd fod llywodraeth Afghanistan a’r gymuned ryngwladol wedi cytuno i asesu taleithiau ar y cyd, gyda’r nod o gyhoeddi erbyn diwedd eleni fod y broses o drawsnewid ar waith.
Llun: Hamid Karzai, arlywydd Afghanistan