Mae cymunedau Cymru eisoes yn dioddef digon heb fod yn gorfod wynebu’r bygythiad o ysgolion yn cau, yn ôl cadeirydd Pwyllgor Menter a Dysgu’r Cynulliad, Gareth Jones.
Pryder y cyn-brifathro sy’n Aelod Cynulliad dors Aberconwy yw nad oes digon o ystyriaeth yn cael ei roi i anghenion ehangach cymunedau mewn cynlluniau ad-drefnu addysg.
“Mae amcanion clodwiw gan strategaeth addysg Llywodraeth Cymru, Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, o safbwynt datblygu ysgolion fel asedau ar gyfer eu cymunedau,” meddai.
“Yr hyn sy’n rhaid ei sicrhau ydi fod hyn yn cael ei weithredu’n ymarferol. Fy mhryder i ydi y gall dyfodol ysgolion fod yn cael ei benderfynu ar sail darpariaeth addysg yn unig heb edrych ar y darlun llawnach ac anghenion y gymuned gyfan.
“Y nod ydi nid yn unig sicrhau fod ysgolion yn aros yn agored ond hefyd yn cael eu datblygu fel canolfannau i’n cymunedau – nid addysg ydi’r unig wasanaeth cyhoeddus y medrwch chi ei leoli mewn ysgolion.”
Diffyg arian
Pryder arall gan Gareth Jones yw na fydd arian ar gyfer codi’r ysgolion newydd sy’n cael eu haddo o dan wahanol gynlluniau ad-drefnu addysg.
“Efo toriadau llym y Llywodraeth glymblaid y Llundain ar wario cyhoeddus, mae’n well inni fod yn gwneud y gorau o’r hyn sydd gynnon ni,” meddai.
Gyda Chyngor Conwy newydd gyflwyno ymgynghoriad ar ddyfodol ysgolion cynradd yn y sir, dywedodd Gareth Jones ei fod yn bwriadu cynnal trafodaethau rhwng y cyngor sir a Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews.
“Mi fyddai’n ceisio sicrwydd fod Llywodraeth Cymru a Chyngor Conwy’n gweithredu’r polisi cenedlaethol o ddatblygu ysgolion fel canolfannau i’n cymunedau, ac yn gwrando ar leisiau’n cymunedau,” meddai.
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio na fydd yr ymgynghoriad yn arwain at gau unrhyw ysgol yn ei etholaeth.
“Ymysg yr ysgolion sy’n cael eu hystyried yn rhaglen foderneiddio’r cyngor sir, mae yna enghreifftiau rhagorol o ysgolion pentref sy’n gwneud cyfraniad pwysig a gwerthfawr i’w cymunedau – ac mae’r cymunedau hyn yn haeddu pob cefnogaeth i sicrhau eu dyfodol,” meddai.