Mae o leiaf 48 o bobl wedi cael eu lladd gan hunan-fomwyr yn Irac heddiw – y mwyafrif ohonyn nhw’n aelodau o warchodlu lleol sydd wedi troi yn erbyn al-Qaida.
Wrth i aelodau o’r Sahwa – milisia o Fwslimiaid Sunni – ddisgwyl am eu cyflogau y tu allan i ganolfan milwrol ar gyrion de-orllewinol Baghdad y bore yma, rhuthrodd hunan-fomiwr i’w canol gan ladd o leiaf 45 ac anafu 40 arall.
Hwn oedd yr ymosodiad gwaethaf hyd yma eleni yn erbyn grwpiau sydd wedi troi yn erbyn al Qaida.
Roedd tua 150 o filwyr yn disgwyl am eu cyflogau pan ymosododd y bomiwr.
Mewn ymosodiad arall, aeth gwrthryfelwr i mewn i un o bencadlysoedd y Sahwa yn nhref orllewinol Qaim ger y ffin â Syria a thanio ar y bobl y tu mewn. Wrth i’r milwyr danio’n ôl a’i anafu, chwythodd ei hun i fyny gan ladd tri ac anafu chwech arall.
Mae ymladdwyr Sahwa wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o leihau trais yn Irac ers iddyn nhw gefnu ar al Qaida yn 2006 ac ymuno â lluoedd America a llywodraeth Irac i ymladd yn erbyn y terfysgwyr.
Llun: aelodau o filisia Sahwa wrth eu gwaith (llun ffeil APP)