Mae pedwar aelod o luoedd arfog Prydain bellach wedi cael eu lladd mewn digwyddiadau ar wahân o fewn 24 awr i’w gilydd yn Afghanistan.

Daeth i’r amlwg heddiw fod pedwerydd milwr wedi cael ei ladd – ar ben y tri a gafodd eu cyhoeddi ddoe.

Bu farw’r milwr o’r Royal Logistics Corps mewn ffrwydrad yn ardal Nahr-e Saraj yn Helmand.

Meddai’r Is-Gyrnol James Carr-Smith o dasglu Helmand: “Roedd y milwr yn rhan o dîm difa ffrwydron a oedd yn clirio priffordd yn neheudir Nahr-e Saraj er mwyn i bobl leol allu symud yn rhydd. Roedd yn ddyn dewr iawn a fydd yn cael ei golli gennym i gyd.”

Roedd ei farwolaeth yn dilyn marwolaethau aelod o Warchodlu’r Royal Dragoon ac aelod o’r 40 Commando Royal Marines mewn ffrwydradau, ac aelod o’r Awyrlu Brenhinol a fu farw mewn damwain car.

Mae disgwyl i’r pedwar milwr gael eu henwi heddiw.