Bydd ffermwyr sy’n ymweld â’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd yr wythnos nesaf yn cael cyfle I gofrestru ar gynllun a all eu helpu i wella ansawdd bridio eu hanifeiliaid.

Mae’r Prosiect Hyrddod Elît, a gafodd ei lansio gan Hybu Cig Cymru’r wythnos ddiwethaf, yn cynnig grant o 50 y cant hyd at uchafswm o £400 I brynu hwrdd o ansawdd genetig uchel er mwyn gwella diadell.

Mae gwefan newydd, www.eliteramproject.org.uk wedi cael ei datblygu gan Hybu Cig Cymru, ac mae disgwyl y bydd hyd at 1,000 o ffermwyr Cymru’n elwa o’r cynllun trwy gwblhau rhaglen hyfforddiant ar-lein.

Bydd ymwelwyr â stondin Hybu Cig Cymru, ger mynedfa adeilad Cymdeithas Genedlaethol y Defaid, yn gallu gweld y wefan ar waith, siarad â staff am y cynllun a chofrestru ar gyfer yr hyfforddiant.

“Bydd staff Hybu Cig Cymru yno hefyd i drafod y datblygiadau diweddaraf yn y prosiectau Cyswllt Ffermio sy’n cael eu gweithredu gennym,” meddai llefarydd ar ran Hybu Cig Cymru.