Mae dau dân coedwig mawr yn llosgi gerllaw Athen, wrth i danau cyntaf yr haf daro Gwlad Groeg.
Cynheuodd y tân mwyaf difrifol o’r ddau y bore yma mewn ceunant gerllaw tref glan-môr Kalamos, 28 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Athen.
Gyda gwyntoedd cryfion 40 milltir yr awr yn gwaethygu’r sefyllfa, mae’r tân yn symud tua’r de-ddwyrain i gyfeiriad tref Marathon lle mae un o’r prif gronfeydd dŵr sy’n gwasanaethu’r brifddinas.
Mae trigolion pentref Varnavas, i’r de o Kalamos, wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi, gydag ychydig yn aros ar ôl i helpu’r ymladdwyr tân.
Mae 12 o awyrennau a phedwar hofrennydd yn ogystal â dwsinau o beiriannau tân yn ymladd y fflamau.
Cynheuodd y tân arall yn gynharach gerllaw porthladd Lavrio, i’r de-ddwyrain o Athen. Mae’r ffaith fod y gwynt wedi gostegu ychydig yn ei gwneud hi’n haws i ymladdwyr tân ei reoli, ac mae’r awyrennau i gyd wedi eu gyrru i’r tân mwy yn y gogledd.
Yn sgil cyfuniad o dywydd poeth a sych a gwyntoedd cryfion, mae tanau coedwig yn digwydd yn rheolaidd yng ngwlad Groeg yn ystod yr haf, a chafodd ardal fawr i’r dwyrain o Athen ei dinistrio gan danau anferth yn 2007.
Llun: Awyrennau’n gollwng dŵr ar y tân i’r gogledd-ddwyrain o Athen (AP Photo/Alkis Konstantinidis)