Bydd pobl 60 oed yn dal i gael tocynnau bws am ddim yng Nghymru, waeth pa newidiadau a fydd yn cael eu gwneud gan lywodraeth Prydain.
Cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad na fydd yn dilyn yr un trywydd â’r Adran Drafnidiaeth yn Llundain sy’n edrych ar ffyrdd o godi’r oedran y bydd rhywun yn cael tocyn o’r fath i 65 cyn gynted ag sy’n bosibl.
Ers Ebrill 1 eleni, mae oedran hawlio tocynnau rhad eisoes yn cael ei gysoni’n raddol ag oedran pensiwn y wladwriaeth erbyn 2020 yn Lloegr, ond mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Philip Hammond yn awyddus i gwblhau’r newidiadau yn 2012 er mwyn torri ar wariant.
Roedd Gweinidog Trafnidiaeth Cymru, Ieuan Wyn Jones, eisoes wedi dweud cyn i’r newidiadau hyn ddod i rym nad oedd unrhyw fwriad i gysylltu oedran teithio am ddim ag oedran pensiwn yng Nghymru.
Mewn ymgais I dawelu ofnau pensiynwyr yng Nghymru ynghylch y datblygiadau diweddaraf yn Lloegr, cadarnhaodd lleafrydd ran Llywodraeth y Cynulliad:
“Hoffem sicrhau y bydd trigolion Cymru’n dal yn gymwys I wneud cais i’w hawdurdod lleol am docyn rhad ar sail oedran pan maen nhw’n cyrraedd 60.”