Hofrennydd ffug yn lliwiau Ambiwlans Awyr Cymru fydd yr atyniad mwyaf annisgwyl ym Mhafiliwn Undeb Amaethwyr Cymru yn y Sioe Frenhinol yr wythnos nesaf.
Y bwriad yw hybu apêl yr Ambiwlans Awyr, sef yr elusen y mae llywydd yr Undeb, Gareth Vaughan, wedi ei dewis am eleni
“Dw i’n falch fod yr undeb a’r Ambiwlans awyr wedi dod at ei gilydd dynnu sylw at fy apêl,” meddai.
“Mae’r gost o redeg tair canolfan y gwasanaeth holl bwysig hwn yn Abertawe, y Trallwng a Chaernarfon dros £5 miliwn y flwyddyn, ac mae’r gwasanaeth wedi cludo dros 11,000 o gleifion hyd yma.
“Dw i’n gwahodd aelodau Undeb Amaethwyr Cymru a’u teuluoedd i alw heibio’r Pafiliwn yn ystod y sioe a mwynhau lluniaeth ysgafn am ddim gyda ni ac efallai wneud cyfraniad at yr apêl.”
Mae’r hofrenyddion yn gallu teithio 140 milltir yr awr – dros ddwy filltir y funud – ac yn gallu cyrraedd pobman yng Nghymru o fewn 20 munud i alwad frys. Mae pob hofrennydd yn gallu cludo dau barafeddyg a dau glaf yn ogystal â’r peilot.