Mae’r Llywodraeth yn ystyried gostwng pris trwydded deledu fel rhan o’i thoriadau cyffredinol ar wario cyhoeddus.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt y gallai’n hawdd ragweld y bydd gwylwyr yn talu llai na’r tâl cyfredol o £145.50 ar ôl y trafodaethau rhwng y Llywodraeth a’r BBC y flwyddyn nesaf.

Gan gyhuddo’r BBC – sy’n dibynnu ar arian y drwydded am ei gynhaliaeth – o wastraff “anhygoel a gwarthus”, dywedodd fod yn rhaid i’r Gorfforaeth gydnabod y “sefyllfa ariannol argyfyngus” y mae Prydain ynddi ar hyn o bryd.

“Bob pum mlynedd, mae gwleidyddion etholedig yn cael cyfle i ddylanwadu ar y BBC pan mae tâl y drwydded yn cael ei adnewyddu,” meddai.

“Mae llawer iawn o bethau y mae angen eu newid yn y BBC.”
Wrth gadarnhau y bydd trafodaethau ynghylch adnewyddu trwydded y BBC yn digwydd y flwyddyn nesaf, dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon:

“Mae gweinidogion yn disgwyl i’r BBC ddangos ei fod yn gweithredu’n effeithlon ac yn rhoi gwerth am arian i’r rhai sy’n talu am eu trwyddedau.”

Llafur yn feirniadol

Cafodd sylwadau’r Gweinidog eu beifrniadu gan Ysgrifennydd Diwylliant yr Wrthblaid, Ben Bradshaw:

“Mae’n synhwyrol i lefel pris y drwydded adlewyrchu amodau economaidd a chyflogau pobl ac i’r BBC ymdrechu i roi gwell gwerth am arian.

“Ond mae hyn yn teimlo fel agenda ehangach yn erbyn y BBC.

“Mae’r mwyafrif o bobl yn gwerthfawrogi’r BBC a thraddodiad Prydain o wasanaeth darlledu cyhoeddus a fydden nhw ddim o blaid difrodi na dinistrio’r BBC.”

Llun: Canolfan y BBC yn White City, Llundain (Clara Molden/Gwifren PA)