Mae tri aelod o luoedd arfog Prydain wedi cael eu lladd mewn digwyddiadau gwahanol yn Afghanistan yn ystod y 24 awr diwethaf, yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Bu farw aelod o Warchodlu’r Royal Dragoon mewn ffrwydrad yn ardal Nahr-e Saraj yn Helmand heddiw, lai na diwrnod ers i aelod o’r llu awyr farw mewn damwain car ger Camp Bastion yn Helmand. Cafodd aelod o’r 40 Commando Royal Marines ei ladd mewn ffrwydrad yn Sangin ddoe hefyd.
Digwyddodd y marwolaethau diweddaraf wrth i’r chwilio barhau am Talib Hussein, y milwr o Afghanistan a lofruddiodd dri milwr o Brydain ddydd Mawrth.
Mae cyfanswm y marwolaethau o luoedd arfog Prydain yn Afghanistan ers 2001 bellach yn 321.