Gyda dyfodol cymorthdaliadau amaethyddol o Ewrop yn ymddangos yn fwyfwy ansicr, mae arbenigwr byd-enwog ar ffermio defaid ar ei ffordd i Gymru i awgrymu ffyrdd o addasu i newidiadau polisi.

Bydd Murray Rohloff, sydd hefyd yn fridiwr pedigri, yn rhannu ei brofiad uniongyrchol o ailstrwythuro’r diwydiant yn Seland Newydd – lle mae cymorthdaliadau wedi dod i ben – mewn cyfres o ddigwyddiadau i gynghori ffermwyr defaid Cymru.

Bydd y digwyddiadau yma, sydd wedi cael eu trefnu gan y corff Hybu Cig Cymru, yn dangos cyfleoedd i wneud ffermydd defaid Cymru’n fwy proffidiol, gan roi sylw arbennig I’r rhan y gall gwella genetig ei chwarae.

Meddai Mark Needham o Hybu Cig Cymru:

“Mae hwn yn gyfle gwych i ffermwyr Cymru glywed yr hyn sydd gan Murray Rohloff i’w ddweud.

“Bydd yn amlinellu’r camau y mae ffermwyr yn Seland Newydd wedi eu cymryd ers diwedd cymorthdaliadau. Mae ffermwyr yno’n gweld eu hunain yn ‘ffermwyr porfa’ yn gyntaf, ac wedyn yn bridio da byw i fanteisio ar well glaswelltir i wella eu helw.”

Yn ystod y digwyddiadau yma ddiwedd y mis – yng Nghaernarfon, Llannon a Bro Morgannwg – bydd Hybu Cig Cymru hefyd yn cyhoeddi canlyniadau’r arolwg diweddaraf o gostau cynhyrchu ac yn dangos y cymorth sydd ar gael i helpu ffermwyr i wneud eu busnesau’n fwy cynaliadwy.