Mae gwrthryfelwyr wedi saethu o leiaf 16 o deithwyr bws yn farw mewn ymosodiad yng ngogledd-orllewin Pacistan.

Cafodd llawer eraill eu hanafu’n ogystal yn yr ymosodiad yn rhanbarth Kurram.

Roedd y teithwyr ar eu ffordd i ddinas Peshawar pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Mae ugeiniau o’r fath ymosodiadau, yn ogystal â lladradau ac achosion o herwgipio wedi digwydd yn yr ardal dros y tair blynedd ddiwethaf.

Roedd y fyddin wedi taro’n ôl mewn cyrch mawr yn erbyn y gwrthryfelwyr yn ddiweddar ac wedi hawlio buddugoliaeth yn eu herbyn.

Llun: Map o wefan y gwasanaeth newyddion Arabaidd Aljazeera yn dangos lleoliad Kurram lle digwyddodd yr ymosodiad y bore yma