Mae miloedd o bobl yn gorfod aildrefnu eu cynlluniau gwyliau ar ôl i gwmni teithio Goldtrail fynd i’r wal.

Mae’r Awdurdod Hedfan Sifil wrthi’n gwneud trefniadau i alluogi tua 16,000 o ymwelwyr o Brydain sydd yng Ngwlad Groeg a Thwrci i hedfan adref.

Roedd tua 2,000 arall i fod i hedfan gyda’r cwmni y penwythnos yma.

Er nad oes unrhyw awyrennau’n hedfan allan gan y cwmni, fe fydd rhai sydd wedi archebu gwyliau’n gallu hawlio’u harian yn ôl.

Dywed datganiad ar wefan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA):

“Roedd Goldtrail Travel Cyf, a oedd yn masnachu fel Goldtrail Holidays, Goldtrail Travel a Sunmar, yn trefnu teithiau a phecynnau gwylio o lawer o feysydd awyr ym Mhrydain i Dwrci a Gwlad Groeg.

“Mae’r CAA, o dan ei gynllun ATOL, yn gwneud trefniadau i gwsmeriaid sydd dramor deithio adref ar ddiwedd eu gwyliau.”