Mae lefelau troseddau yng Nghymru wedi disgyn ym mhob ardal heddlu yng Nghymru ond un, yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Cartref.

Datgelwyd ddoe fod lefelau troseddu ar draws Prydain wedi disgyn i’w hisaf ers 1981, er gwaetha’r dirwasgiad.

Mae trosedd wedi mynd i lawr 12% yn ardal Heddlu De Cymru, 7% yn ardal Heddlu Dyfed-Powys a 3% yn ardal Heddlu Gogledd Cymru. Ond mae trosedd wedi codi 3% yn ardal Heddlu Gwent.

Heddlu De Cymru

Mae ffigyrau trosedd 2009/2010 y Swyddfa Cartref yn dangos fod troseddau Heddlu De Cymru wedi gostwng 11.8% o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2008/2009.

Mae hyn yn cyfateb i 38 yn llai o ddioddefwyr ar gyfartaledd bob dydd ac yn golygu mai Heddlu De Cymru yw’r 8fed heddlu sydd wedi gwella orau yng Nghymru.

Roedd 13,816 yn llai o ddioddefwyr troseddau yn 2010 o’i gymharu â 08/09 gyda gostyngiadau amlwg ym meysydd troseddau, cerbydau a byrgleriaethau.

“Gall ein staff fod yn falch o’r canlyniadau hyn sy’n adlewyrchu eu gwaith caled. Rydym wedi ymrwymo i fod y gorau mewn deall ac ymateb i anghenion ein cymunedau, a byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid a chymunedau i leihau troseddu a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol,” meddai llefarydd.

Heddlu Gwent

Er bod ffigyrau Gwent yn dangos cynnydd yn nifer cyffredinol y troseddau yng Ngwent o’i gymharu â’r llynedd, mae’r heddlu wedi dweud ei bod yn bwysig rhoi hyn yn ei “gyd-destun”.

“Ychydig dros bum mlynedd yn ôl, fe wnaeth Heddlu Gwent gofnodi dros 60,000 o droseddau’r flwyddyn. Mae hyn bellach i lawr i ychydig dros 50,000 sydd yn ffigwr rydym yn gweithio’n galed gyda’n partneriaid a’n cymunedau i leihau,” meddai Heddlu Gwent.

“O ran y ffigurau diweddaraf, rydan ni’n arbennig o falch bod achosion difrod troseddol wedi’u lleihau.

“Roedd 765 yn llai o ddioddefwyr na’r flwyddyn ddiwethaf ac mae’r gostyngiad hyn yn dangos ein bod wedi gwrando ar y cyhoedd – oedd eisiau i ni fynd i’r afael â difrod troseddol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.”

Heddlu Dyfed Powys

Mae ffigyrau troseddau Heddlu Dyfed Powys i lawr 7% ar y flwyddyn ddiwethaf ac o fewn y ffigwr hwn mae byrgleriaethau tai a throseddau cerbydau i bron i bumed.

Dywedodd yr Heddlu eu bod nhw’n croesawu’r gostyngiad mewn lefelau trosedd yn ogystal â chael cyfradd datgelu troseddau uwch nag unman yng Nghymru a Lloegr. Ond maen nhw’n rhybuddio y gallai’r Heddlu ddioddef toriadau cyllid difrifol yn y dyfodol.

“Mae’r blynyddoedd nesaf yn arwydd o gyfnod o doriadau yn y gyllideb na welwyd ei debyg ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaeth yr heddlu yn llawer o imiwnedd i’r rhain.

“Bydd y pwysau ar yr economi yn cael effaith ar deuluoedd ledled Cymru a Dyfed Powys. Mae risg amlwg y gallai hyn arwain at gynnydd mewn troseddau yn genedlaethol ac yn lleol.”

Heddlu Gogledd Cymru

“Mae’r ffigurau a gafodd eu cyhoeddi heddiw yn dangos bod Gogledd Cymru yn uwch na’r cyfartaledd pan ddaw i hyder y cyhoedd yn eu heddlu lleol.

“Rydym yn falch iawn bod hyder y cyhoedd yn parhau i gynyddu yn Heddlu Gogledd Cymru a gall pobl leol sicrhau fod y ffigurau hyn yn dangos fod yr ardal yn un o’r llefydd mwyaf diogel i fyw.”

“Mae’r ystadegau yn dangos bod y siawns o ddioddef bwrgleriaeth yng Ngogledd Cymru yn isel a bod delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, meddwdod a chadw twrw (sydd wedi bod yn ffocws ar gyfer yr Heddlu) wedi bod llawn werth yr ymdrech.”

“Rydym yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr ein bod yn lleihau’r troseddau ac yn parhau i wneud Gogledd Cymru yn lle hyd yn oed yn fwy diogel.”