Mae un o arglwyddi’r Blaid Geidwadol wedi cael ei gyhuddo o gyfrifo ffug heddiw.
Bydd yr Arglwydd Taylor o Warwick, neu John David Beckett Taylor, yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ar 13 Awst, meddai Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Mae’n wynebu chwe chyhuddiad o gyfrifo ffug yn ymwneud â hawlio £11,000 am gynhaliaeth dros nos a chostau teithio.
Y chweched
Fe yw’r chweched gwleidydd i gael ei gyhuddo yn dilyn sgandal y lwfansau Seneddol.
Roedd y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Keir Starmer QC, a Chomisiynydd Heddlu’r Met, Syr Paul Stephenson, wedi sefydlu panel o uwch swyddogion a chyfreithwyr ym mis Mai 2009 i ystyried achosion yn ymwneud â’r lwfansau.
Yr arglwydd cyntaf
John David Beckett Taylor oedd arglwydd croenddu cyntaf y Blaid Geidwadol.