Mae disgwyl i Abertawe gyhoeddi enw eu rheolwr newydd cyn diwedd y dydd heddiw.
Y gred gyffredinol yw mai cyn rheolwr Reading a Watford, Brendan Rogers fydd yn cymryd y llyw wedi i Paolo Sousa adael i reoli Caerlŷr.
“Bydd trafodaethau yn parhau bore ma, ac os aiff popeth yn ôl y disgwyl, byddwn ni’n gobeithio cwblhau’r gwaith papur a gwneud cyhoeddiad cyn diwedd y prynhawn”, meddai Jonathan Wilshire, Swyddog y Wasg y clwb wrth Golwg360.
Dim Cyfrinach
“Tydi’r enw sy’n cael ei grybwyll gan y wasg ar hyn o bryd yn ddim cyfrinach” meddai Jonathan Wilshire.
“Os fydd popeth yn mynd yn dda yna rydan ni’n gobeithio y bydd cyhoeddiad swyddogol yn cael ei wneud erbyn 3 neu 4 y prynhawn yma” meddai.
Mae Brendan Rogers yn 37 mlwydd oed a’i swydd reoli ddiweddaraf oedd honno gyda Reading yn ystod ail hanner 2009. Cafodd ei ddiswyddo ym mis Rhagfyr.
Cyn hynny bu’n rhan o dîm rheoli Chelsea, cyn derbyn ei swydd reoli gyntaf yn Watford ddiwedd 2008.
Mae’n debyg fod gan Jose Maurinho feddwl mawr ohono, tra bod sôn yn y Western Mail heddiw bod Roberto Mancini a Roy Keane ill dau wedi cynnig swyddi iddo fel rhan o’u tîm ym Manchester City a Ipswich Town.
Curo Castell-nedd
Wrth i hyn oll ddigwydd yn y cefndir, roedd Abertawe’n fuddugol o 2-0 mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Castell-nedd neithiwr. Scott Donelly a Shefki Kuqi sgoriodd i Abertawe wrth i gyn chwaraewr y clwb, Lee Trundle hefyd wneud ei ymddangosiad cyntaf i dîm y Gnoll.