Bydd rhaid i Peter Sutcliffe, sy’n ddrwg-enwog fel y Yorkshire Ripper, dreulio gweddill ei fywyd yn y ddalfa, penderfynwyd heddiw.

Cyhoeddodd yr Uchel Lys heddiw na fyddai’r cyn yrrwr loriau 63 oed, sydd bellach wedi newid ei enw i Peter Coonan, yn cael i ryddhau.

Cafwyd Peter Sutcliffe o Bradford yng Ngorllewin Swydd Efrog yn euog o lofruddio 13 menyw yn yr Old Bailey yn 1981.

Cafodd ei ddedfrydu i gaethiwed oes 20 o weithiau. Penderfynodd barnwr heddiw na fyddai’n cael ei ryddhau’n gynnar o’i gaethiwed.

Dywedodd yr Ustus Mitting ei fod o wedi darllen datganiad gan berthnasau chwech o’r dioddefwyr.

“Roedd pob un yn adroddiad teimladwy o’r niwed parhaol achoswyd gan ei droseddau,” meddai.

“Rwy’n cymryd bod teuluoedd y dioddefwyr eraill yn teimlo’r un fath.

“Dyw’r un ohonyn nhw’n awgrymu y byddai unrhyw ddedfryd ar wahan i un sy’n parhau drwy ei oes yn briodol.”