Mae protestwyr heddwch sydd wedi meddiannu gerddi Parliament Square Llundain wedi colli eu hapêl yn erbyn cael eu symud oddi yno.
Bydd rhaid i’r protestwyr sydd wedi creu’r gwersyll ‘Pentref Democratiaeth’ adael y safle hanesyddol.
Fis diwethaf enillodd y Maer Boris Johnson ei frwydr yn y llys i gael gwared a’r protestwyr, ond fe benderfynon nhw apelio yn erbyn y penderfyniad.
Maen nhw’n dadlau nad oes gan y maer unrhyw hawl i symud y protestwyr o’r tir, ac mai’r Frenhines sydd biau’r gerddi.
Ond dywedodd cyfreithiwr Boris Johnson bod y gerddi yn fan cyhoeddus y mae gan bawb yr hawl i’w ddefnyddio, a bod y gwersyll yn mynd yn groes i hawliau’r cyhoedd.
“Rydym ni wrth ein bodd gyda’r penderfyniad yma ac yn teimlo bod angen dod a’r gwersyll i ben,” meddai Colin Barrow, arweinydd Cyngor Dinas San Steffan.
“Rydw i’n cefnogi protestio heddychlon, ond mae’n hollol annerbyniol bod rhannau o’r ddinas yn cael eu cipio a’u troi i mewn i ardaloedd lle nad oes unrhyw un arall yn cael mynd.
“Mae’r penderfyniad yn golygu bod ymwelwyr a phobol gyffredin o Lundain yn gallu defnyddio’r gerddi unwaith eto.”